Sunday 24 April 2016

Elect Alice Hooker-Stroud in Mid and West Wales-Regional Vote Green in 2016


Sgroliwch i lawr am y Gymraeg.

HOW YOU CAN HELP ELECT ALICE THIS MAY
You have a chance of making history in the 2016 National Assembly for Wales elections. Invite people to this page to show everyone how much support there is for a Green Welsh Assembly member.

Want to invite more people to this event very quickly? Click the 'Invite' button above and find all of your friends (and friends-of-friends!) who like the Green Party AND live in Mid & West Wales!

If you have Google Chrome, install this plugin: https://chrome.google.com/webstore/detail/vote-green-v30/oaajmebifiadeengciboijefdppjpndi
Otherwise, use the instructions here:
http://greenparty.wales/facebanking-for-alice/
------------------------------------------------------

Loads of people know the Green Party comes from a good place, has great values, and has some amazing ideas that would make our society more equal and more sustainable place. People want Green representation, but don't think it's possible. This couldn't be further from the truth in May 2016, here in Mid & West Wales. If you vote Green on the grey regional ballot paper, we will get our first Green elected Welsh Assembly member in the Senedd. The voting system is fairer on the regional list, and we can make a breakthrough here in Mid & West Wales. #VoteGreenOnGrey this May to #ShakeUpTheSenedd.

Our lead list candidate is Alice Hooker-Stroud, leader of the Wales Green Party. If you vote Green on the grey Mid & West Wales regional list ballot paper, she is the person you will be electing to the Senedd. You can find more about what the Wales Green Party stands for here on our site:
http://walesgreenparty.org.uk/

If you want to find out more about Alice, or ask her about her ideas, why not like her Facebook page, follow her on Twitter, or check out her website:

Alice Hooker-Stroud
https://twitter.com/AliceGreenParty
www.alicegreenparty.cymru

Alice was born and raised in the region, growing up in Llanfyllin in Montgomeryshire and studying in Welsh at her local school. After leaving school, she went to Bristol University, where she studied Physics and Climate Science and since then she has put this knowledge into practice, working in academia and the third sector. After a period working at a university in Barcelona, Alice moved back to Wales and worked at the Centre of Alternative Technology in Machynlleth, co-ordinating research and communicating the results of their 'Zero Carbon Britain' project. Since leaving CAT, Alice has continued to live in Mach, while working on social justice campaigns with Global Justice Now. At the end of 2015 she was elected the leader of the Wales Green Party.

With her 32nd birthday coming up in April, Alice is the youngest party leader in the whole of Britain. She isn’t just another politician; she is a local who has fresh new ideas about how Wales should fight against austerity and for sustainability. She passionately believes that the Wales Green Party has important ideas for the future of Wales, ideas that have been locked out of Welsh politics for too long.

The voting system in Wales works in our favour. If you want to see Alice and Green ideas in the Senedd, all you have to do is vote Green on your grey regional ballot paper. It is time to #ShakeuptheSenedd

--------------------------------------------------------------------------------

SUT Y GALLWCH HELPU I ETHOL ALICE MIS MAI ELENI
Mae cyfle gennych i greu hanes yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016. Gwahoddwch eich ffrindiau i'r dudalen hon er mwyn tynnu sylw pawb at faint o gefnogaeth sydd ar gyfer aelod cynulliad Gwyrdd i'r Senedd.

Ydych chi am wahodd mwy o bobl i'r digwyddiad yn gyflym iawn? Cliciwch ar y botwm 'Gwahodd' uchod a darganfyddwch eich holl ffrindiau (a ffrindiau eich ffrindiau!) sy'n hoffi'r Blaid Werdd, sydd hefyd yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru!

Os oes gennych Google Chrome, gosodwch yr ategyn hwn:

https://chrome.google.com/webstore/detail/vote-green-v30/oaajmebifiadeengciboijefdppjpndi

Fel arall, dilynwch y cyfarwyddiadau fan hyn:
http://greenparty.wales/facebanking-for-alice/


Mae llwyth o bobl yn gwybod fod gan y Blaid Werdd gymhellion da, yn berchen ar werthoedd gwych, a gyda syniadau ardderchog fyddai'n creu cymdeithas decach, fwy cynaliadwy. Mae pobl yn awyddus i gael cynrychiolaeth Gwyrdd, ond yn credu nad yw hyn yn bosibl. Yma yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mae hyn yn bell o fod yn wir. Os ydych yn bwrw pleidlais Werdd ar y papur pleidleisio llwyd rhanbarthol, fe enillwn ein aelod cynulliad Gwyrdd cyntaf i'r Senedd. Mae'r drefn bleidleisio yn decach ar y rhestr ranbarthol, a gallwn dorri drwodd yma yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. #PleidlaisWerddArLwyd ym mis Mai eleni er mwyn #SigloEinSenedd.

Ein prif ymgeisydd ar y rhestr yw Alice Hooker-Stroud, arweinydd Plaid Werdd Cymru. Os ydych yn bwrw pleidlais Werdd ar y papur pleidleisio rhanbarthol llwyd, hi yw'r un byddwch yn ethol i'r Senedd. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae'r Blaid Werdd yn sefyll drosto ar ein gwefan:

http://walesgreenparty.org.uk/

Os ydych am ddarganfod mwy am Alice a'i syniadau, ewch ati i 'hoffi' ei thudalen Facebook, ei dilyn ar Trydar, neu tarwch olwg ar ei gwefan:

Alice Hooker-Stroud
https://twitter.com/AliceGreenParty
www.alicegreenparty.cymru

Ganwyd Alice yn yr ardal, ac fe'i magwyd yn Llanfyllin yn Sir Drefaldwyn, gan astudio Cymraeg yn ei hysgol lleol. Ar ôl gadael yr ysgol, aeth i Brifysgol Bryste, lle astudiodd Ffiseg a Gwyddoniaeth Hinsawdd. Ers hynny mae hi wedi gweithio ym myd academia a'r trydydd sector. Ar ôl cyfnod yn gweithio i brifysgol ym Marcelona, symudodd Alice yn ôl i Gymru a gweithio yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, yn cydlynnu ymchwil a chyfathrebu canlyniadau eu hadroddiad, 'Zero Carbon Britain'. Ers gadael y Ganolfan, mae hi wedi parhau i fyw ym Machynlleth, tra'n gweithio ar ymgyrchoedd cyfiawnder cymdeithasol gyda Global Justice Now. Ar ddiwedd 2015, cafodd ei hethol yn arweinydd i Blaid Werdd Cymru.

Wrth iddi nesáu at ei phenblwydd yn 32 oed ym mis Ebrill, Alice yw'r arweinydd plaid wleidyddol ieuengaf yng ngwledydd Prydain i gyd. Nid jest gwleidydd arall mo Alice: mae hi'n berson lleol sydd â syniadau newydd am sut y dylai Cymru frwydro yn erbyn llymder a thros gynaliadwyaeth. Mae'n credu'n angerddol fod gan Blaid Werdd Cymru syniadau pwysig ar gyfer dyfodol Cymru – syniadau sydd wedi cael eu cau allan o wleidyddiaeth Gymreig am rhy hir o lawer.

Mae'r drefn bleidleisio yng Nghymru o fantais i ni. Os ydych am weld Alice a syniadau Gwyrdd yn y Senedd, yr unig beth sy'n rhaid i chi ei wneud yw bwrw pleidlais Werdd ar y papur pleidleisio llwyd rhanbarthol. Mae'n hen bryd i ni #SigloEinSenedd

No comments:

Post a Comment